| |  |  |  | Jwdas Sioe gerdd yn cydymdeimlo 芒 bradwr enwoca'r byd . . .
 |  |  |  | 
 |  | Yn sioe gerdd ddiweddaraf cwmni theatr Cristnogol Cymraeg edrychir gyda chydymdeimlad ar Jwdas Iscariot - y bradwr enwocaf yn hanes y byd. 
 Ac yn Jwdas a berfformiwyd gan Gwmni Tystion Broydd Tywi daeth elfennau mor annisgwyl  芒 chaneuon Elvis Presley a phroffwydoliaeth Eseia at ei gilydd.
 
 Teimlo cydymdeimlad
 Awdur Jwdas  - a berfformiwyd gyntaf yn Theatr y Lyric, Caerfyrddin, nos Iau Tachwedd 7, 2006 gan y cwmni o rhyw gant o aelodau - yw Nan Lewis sy'n awdur nifer fawr o basiantau.
 
 Eglurodd ar Bwrw Golwg sut y bu iddi gyfansoddi'r gwaith:
 "Rwy'n cofio mynd i Oberamegau yn 1960 a dyna'r tro cyntaf imi deimlo cydymdeimlad  gyda Jwdas  - a minnau wedi teimlo fel y rhan fwyaf o bobl mai person i'w gondemnio oedd o.
 
 "Ond wedi'r cyflwyniad yna yr oeddwn yn gweld gwedd newydd arno fe a dyna pam y dewisais i'r testun," meddai.
 
 "Yr hyn ydw i'n wneud yw edrych ar broffwydoliaeth Eseia  ac yn 么l honno yr oedd yn rhaid i rywun arwain  yr Oen i'r lladdfa  a dyna yw'r dehongliad sydd gyda fi - roedd Jwdas yn cael ei ddewis i arwain yr Oen i'r lladdfa, dyna yw ei dynged e.
 
 Gofyn y cwestiwn
 "Rwy'n si诺r y bydd nifer  yn anghydweld 芒'r dehongliad yna ond rwyf i mewn cydymdeimlad ag ef  ac rwy'n gobeithio y bydd y cyfan yn ennyn trafodaeth  yn y diwedd gan mai dyna un o'r amcanion,"  meddai.
 
 "Yn 么l dwy efengyl - Marc a Mathew - dim ond bradwr oedd e  ac yn 么l Luc a Ioan mae wedi cael ei feddiannu gan Satan  ac mae dyn yn gofyn y cwestiwn, Pwy sy'n dweud ei fod wedi cael ei feddiannu  gan Satan? ac yn y diwedd rwy'n ceisio bod yn wrthrychol ac mae Jwdas yn gofyn y cwestiwn, Pwy sydd wedi'i ddefnyddio fe, Duw ynteu'r Diafol."
 
 Elvis ac emynau
 Dywedodd Eryl Jones, cyfarwyddwraig cerdd y sioe fod amrywiaeth o gerddoriaeth wedi'i chynnwys:
 "Yr ydym ni wedi edrych ar gerddoriaeth gyfoes iawn - mae Nan Lewis yn hoff iawn o Elvis Presley  ac mae hi wedi gosod geiriau sy'n gweddu i'r pasiant ond hefyd yn adlewyrchiad o gerddoriaeth Elvis Presley.
 
 "Mae yna emynau yno, mae yna waith o'r Meseia  yn clymu fewn pethau  ac felly rydym ni wedi cael cerddoriaeth gyfoes, draddodiadol, seciwlar, emynau ac yn y blaen- mae pob peth yno."
 
 Ychwanegodd  i'r gwaith fod yn "sialens fawr" i'r rhai gymerai ran.
 
 "Ond rwy'n credu eu bod nhw  wedi mwynhau y profiad yn fawr iawn. Mae'n beth nad anghofia nhw byth," meddai.
 
 Tynnu'r enwadau
 Dywedodd Nan Lewis, hithau, fod y pasiant yn gyfrwng pwerus iawn i gyflwyno yr efengyl ac i genhadu..
 
 "Ond mae yna bwrpas arall hefyd sef ein bod ni yn tynnu'r enwadau at ei gilydd  ac yn y cwmni yma rwy'n si诺r bod oddeutu pump neu chwech o enwadau  wedi dod at ei gilydd ac mae wedi bod yn brofiad arbennig," meddai.
 
 Ond heb amheuaeth y pwnc dadleuol yw y dehongliad o ran Jwdas yn hanes Crist.
 
 Beth yw eich barn chi am ei ran ef yn hanes Iesu Grist?
 Bradwr, ynteu un wedi ei ddefnyddio gan Dduw i ddod a'i  waith i ben - ynteu erfyn yn llaw y Diafol?
 Cliciwch  i ebostio eich sylwadau.
 
 Cliciwch  i weld lluniau o'r cynhyrchiad gan Hywel Rees.
 
 
 
  |  |  |  |  |  | 
 | |  | 
 |  | 
 |  | 
 |