| 1960 David Lloyd  Y tenor gyda'r llais arian a gyfunodd y clasurol a'r cartrefol Ganwyd David Lloyd (1912 - 1969) yn Nhrelogan,  Sir y Fflint, yn fab i lowr.  Dechreuodd ganu yn wyth mlwydd oed.  Ar ôl meithrin ei ddawn mewn eisteddfodau lleol, enillodd ysgoloriaeth i Ysgol Gerdd y Guildhall a bu'n canu yn Efrog Newydd, Milan a Glyndebourne.  Bu'n aelod o'r Gwarchodlu Cymreig yn ystod y rhyfel, a gwelwyd ef yn ei lifrai yn canu ar lwyfan sawl gwaith.  Swynodd y genedl â'i lais ariannaidd, teimladwy. Roedd ganddo ddawn neilltuol i fynd â chalon cynulleidfa, yn enwedig cynulleidfa Gymreig, pryd y byddai'n canu hen ffefrynnau o ganeuon gwerin ac emynau. Clipiau perthnasol:  O Cofio'r Celyn a'r Calan darlledwyd yn gyntaf  25/12/1960 
 
Er mwyn ichi wylio'r darn hwn bydd rhaid ichi osod chwaraewyr Real ar eich cyfrifiadur.  Cewch gymorth yma i  osod RealPlayer, ac i   
 
 |