Welsh Whisperer - Andrew Walton
Beti George yn holi yr Welsh Whisperer - Andrew Walton. Beti George interviews the Welsh Whisperer - Andrew Walton.
Y canwr gwlad Andrew Walton o Gwmfelin Mynach yw gwestai Beti a'i Phobol. Mae hefyd yn cael ei adnabod fel y Welsh Whisperer, ac mae'n dathlu 10 mlynedd eleni ers dechrau perfformio. Mi fydd y caneuon 'Ni'n Beilo Nawr' a 'Bois y JCB' yn gyfarwydd i'w ffans.
Cafodd ei fagu yng Nghwmfelin Mynach yn Sir Gaerfyrddin. Mae bellach yn byw yng Nghaernarfon, Gwynedd.
Graddiodd mewn newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Sheffield , a bu'n athro ysgol gynradd yn y gogledd am sawl blwyddyn, cyn mentro o ddifri i'r byd perfformio.
Mae'r Welsh Whisperer bellach yn wyneb cyfarwydd ar y teledu, yn perfformio canu gwlad mewn gwyliau cerddorol ac yn denu niferoedd i neuaddau pentref ar hyd y wlad.
Mae'n cyflwyno cyfres o bodlediadau newydd ' Y Byd yn Grwn' sy'n rhoi cipolwg y tu 么l i'r llenni ar glybiau p锚l-droed llawr gwlad a'r gwirfoddolwyr allweddol sy'n eu rhedeg.
Cawn hanesion difyr ei fywyd, ac mae'n dewis caneuon Gwyddelig ac un gan ei arwr Tecwyn Ifan.
Darllediad diwethaf
Cerddoriaeth a chwaraewyd
-
Tecwyn Ifan
C芒n Yr Ymprydiwr
- Edrych I'r Gorwel.
- Sain.
- 4.
-
P.J. Murrihy & Seamus Shannon
The Cuckoo Waltz
- From Roscommon to Clare.
- P.J. Murrihy Music.
- 14.
-
Welsh Whisperer
Ni'n Beilo Nawr
- Y Dyn o Gwmfelin Mynach.
- Fflach & Tarw Du.
- 9.
Darllediadau
- Sul 11 Mai 2025 18:00成人快手 Radio Cymru
- Iau 15 Mai 2025 18:00成人快手 Radio Cymru
Archif Beti a'i Phobol
Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.
Podlediad
-
Beti a'i Phobol
Sgyrsiau gyda phobl diddorol. Interviews with interesting people