Kristy Hopkins
Yr athrawes Kristy Hopkins, sy’n gweithio’n ddiflino i godi ymwybyddiaeth o fyddardod a’r heriau mae plant a phobl fyddar yn eu hwynebu.
Yr athrawes Kristy Hopkins, sy’n westai ar bennod 2 o ‘Meddwl yn Wahanol’. Cardi yn wreiddiol ond bellach yn byw yng Nghaerdydd gyda’i theulu, mae Kristy yn gweithio’n ddiflino i godi ymwybyddiaeth o fyddardod a’r heriau mae plant a phobl fyddar yn eu hwynebu.
Darganfu Kristy ei bod yn fyddar pan oedd yn 8 oed, pan nad oedd yn canolbwyntio yn yr ysgol. Er iddi gael y diagnosis, roedd ffordd hir o’i blaen cyn iddi deimlo’n ddigon hyderus i wisgo cymhorthion clyw a byw ei bywyd fel person byddar.
Bellach, yn athrawes i blant a phobl ifanc byddar yn Ne Cymru, mae hi hefyd yn ymgyrchu’n ddiflino i godi ymwybyddiaeth o’r heriau sy’n wynebu hi a’i theulu, gan annog pawb i ddysgu rhywfaint o Iaith Arwyddo Prydain.
Daw’r awch i weithredu wedi i’w merch gael ei geni’n hollol fyddar. Cawn glywed am eu taith wrth iddi benderfynu rhoi mewnblaniad cochlear i’w merch, a’r cymhlethdodau a ddaeth yn sgil hynny.
Er gwaethaf y cyfnodau tywyll, mae ysbryd cadarn Kristy yn disgleirio wrth iddi rannu ei buddugoliaethau a'i gweledigaeth o fyd byddar i blant y dyfodol.
Rhagor o benodau
Dan sylw yn...
Podlediadau Cymraeg
Detholiad o bodlediadau Cymraeg ar ³ÉÈË¿ìÊÖ Sounds
Podlediad
-
Lleisiau Cymru
Podlediadau Cymraeg o bob math, yn llawn lleisiau amrywiol a diddorol!