³ÉÈË¿ìÊÖ

Use ³ÉÈË¿ìÊÖ.com or the new ³ÉÈË¿ìÊÖ App to listen to ³ÉÈË¿ìÊÖ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,15 Jun 2025,49 mins

Bethan Sayed

Beti a'i Phobol

Available for over a year

Yn rhan o dymor Merthyr ³ÉÈË¿ìÊÖ Cymru mae Beti George yn holi Bethan Sayed, gwleidydd gafodd ei hethol i’r Cynulliad yn 2007 pan oedd hi’n 25 mlwydd oed. Roedd hi'n bach o rebel yn yr ysgol gynradd ac yn y cynulliad yn adnabyddus am draethu'n blwmp ac yn blaen, ac yn barod iawn i herio'r drefn. Fe benderfynodd beidio sefyll yn etholiad 2021, gan nad oedd yn hapus gyda'r hyn oedd yn digwydd yn ei phlaid, Plaid Cymru ac fe benderfynodd ganolbwyntio ar y teulu. Mae hi'n briod â Rahil Sayed sydd yn ymgynghorydd busnes ac yn gweithio yn y byd ffilm Bollywood, ac yn creu ffilmiau yng Nghymru ar gyfer India a'r byd. Cawn hanesion difyr ei bywyd ac mae hi'n dewis 4 cân gan gynnwys cân gan Sobin a'r Smaeliaid; 'roedd hi'n ffan o Bryn Fôn tra'n tyfu fyny ym Merthyr.

Programme Website
More episodes