Episode details

Available for over a year
"Mae cymdeithas a chefnogaeth mor bwysig i deuluoedd dementia," medd gweinidog o Ben-y-bont ar Ogwr sy'n gofalu am ei wraig. Daw sylwadau y Parchedig Hywel Wyn Richards wrth i Undeb yr Annibynwyr arwain ymgyrch i wneud "eu heglwysi yn rhai dementia-gyfeillgar" ac ar ddiwedd wythnos codi ymwybyddiaeth am y cyflwr. Cafodd Dilys Richards ddiagnosis o gyflwr Alzheimers yn 2020. Yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg mae'r Parchedig Hywel Wyn Richards yn rhannu ei brofiad ac yn disgrifio sut mae cof a chyflwr ei wraig yn dirywio'n raddol gan ateb i ddechrau a oedd cael diagnosis cynnar yn help.
Programme Website