Episode details

Available for over a year
Mae teyrngedau lu wedi'u rhoi i'r darlledwr, awdur a gweinidog gyda'r Annibynwyr, y Parchedig Ddr R Alun Evans wedi iddo farw yn 86 oed ddiwedd Awst. Un a oedd yn ei adanbod yn dda oedd y Parchedig John Gwilym Jones a thra roedd y ddau yn byw ym Mangor fe fynychai R Alun Evans gapel Pen-dre lle roedd John Gwilym yn weinidog. Ar raglen Bwrw Golwg ddydd Sul 27 Awst bu'n cofio am ei gyfaill - gan ei ddisgrifio fel heddychwr a Chymro amryddawn oedd wastad 芒 graen ar ei waith.
Programme Website