Episode details

Available for over a year
Mae cyfrol newydd gan y Prifardd Gwyneth Lewis yn gofnod cignoeth a gonest o'r gamdriniaeth emosiynol a dderbyniodd gan ei mam pan yn blentyn. "Nid ar chwarae bach mae person yn datgelu pethau mor breifat a phersonol," meddai wrth siarad ar raglen Bwrw Golwg. "Mae'n gofnod am y gorffennol ond dyw 么l cam-drin emosiynol ddim yn diflannu. Mae rhywun yn byw gydag e yn gyson. "Pan chi'n blentyn does dim amddiffynfa gyda chi o gwbl - yn enwedig os yw'r cam-drin yn digwydd yn y cartref." Ond pam mynd ati i ailymweld gyda phrofiadau sydd wedi bod mor boenus?
Programme Website