³ÉÈË¿ìÊÖ

Atodiad: Asesu ein cynnydd

Cynllun amrywiaeth a chynhwysiant y gweithlu 2021-2023

Delwedd: Rhai o Leisiau Newydd Radio Lleol y ³ÉÈË¿ìÊÖ yn 2021

Lluniwyd ein Cynllun Amrywiaeth a Chynhwysiant y Gweithlu 2021-2023 er mwyn creu sefydliad mwy creadigol, cynhwysol ac amrywiol. 

Ymysg y meysydd cyflawni allweddol mae:

  • roedd ein holl gynlluniau datblygu gyrfaoedd ar gael i’r holl staff ac roedd pob un ohonynt yn cyrraedd ein nodau amrywiaeth 50:20:12:25 neu’n rhagori arnynt
  • dangosodd ein harolwg ar gyfer 2024 ein bod yn gwneud cynnydd cadarn yn y maes hwn: mae 78% o’r staff yn teimlo bod eu rheolwr yn creu amgylchedd tîm cynhwysol, i fyny bum pwynt canran o gymharu â 2022; mae 70% yn teimlo y gallant fod yn nhw eu hunain go iawn, i fyny dri phwynt canran o gymharu â 2022 ac mae 68% yn teimlo eu bod yn perthyn yn y ³ÉÈË¿ìÊÖ, i fyny bedwar pwynt canran o gymharu â 2022
  • paratôdd ein Rhaglen Accelerator blwyddyn o hyd gyfranogwyr ar gyfer rolau uwch neu fwy cymhleth neu ddwfn. O fwy na 900 o ymgeiswyr, dewiswyd 26 o unigolion i gymryd rhan ac ers i’r rhaglen ddod i ben, roedd 44% o’r cyfranogwyr wedi cael dyrchafiad a 32% arall wedi cael cyfrifoldebau ehangach a mwy heriol, o fewn y ³ÉÈË¿ìÊÖ neu’r tu hwnt iddo
  • nod ein Rhaglen Prentisiaid Gyrfaoedd Cynnar clodwiw yw cynyddu nifer y cyfleoedd lefel mynediad ym mhob rhan o’r sefydliad. Hyd yma, rydym wedi cyflogi mwy na 700 o Brentisiaid Gyrfaoedd Cynnar o amrywiaeth eang o gefndiroedd, gan gynnwys 70% o’r garfan ddiweddaraf y tu allan i Lundain
  • mae ein prentisiaethau staff yn galluogi cydweithwyr i gasglu gwybodaeth, gwella sgiliau ac ennill cymwysterau ffurfiol
  • treuliodd cydweithwyr o leiaf 20% o’u horiau gwaith arferol ar brentisiaeth staff, ac mae mwy na 250 o aelodau o staff wedi cymryd rhan hyd yma, gan gael hyfforddiant sydd wedi’i gynllunio ar gyfer y diwydiant gan ddarparwyr prentisiaeth arweiniol wrth barhau i weithio yn eu rôl bresennol
  • gyda’n dull ‘Accessible First’ rydym wedi adolygu polisïau presennol mewn ymgynghoriad â’r staff ac wedi rhoi cyfres o newidiadau ar waith i wella cynhwysiant i staff anabl
  • mae ein cynllun Pasbort Anabledd wedi helpu mwy na 100 o aelodau o staff i gael sgyrsiau gyda’u rheolwyr am yr addasiadau sydd eu hangen arnynt, gyda chyllid ychwanegol yn cael ei roi i uwchraddio ein technoleg pan fo angen
  • mae rhaglen Cynghreiriaid Anabledd newydd yn helpu’r staff i chwarae rôl weithredol yn y newidiadau hyn ac mae ymgyrchoedd recriwtio wedi’u targedu yn helpu i ddenu talent anabl i’r adrannau Newyddion, y Gwledydd a Chynnwys, drwy ein rhaglen ³ÉÈË¿ìÊÖ Extend glodwiw
  • er mwyn helpu ein timau i gydnabod gwerth talent amrywiol, gwnaethom greu pecyn cymorth cyflogi newydd ar gyfer Arweinwyr Tîm sy’n eu helpu i wirio a mireinio eu proses am unrhyw duedd bosibl. Yn dilyn hyn, gwnaethom gyflwyno fframwaith cyfweliadau newydd sy’n seiliedig ar werthoedd, wedi’i gynllunio i gydnabod potensial ymgeisydd yn hytrach na dim ond ei brofiad
  • gwnaethom gyflwyno Mynegai Uwcharweinwyr newydd, sy’n helpu arweinwyr i ddeall amrywiaeth eu timau ac ymrwymiad staff, er mwyn cyflwyno lefel newydd o atebolrwydd a helpu ein huwch-dîm i ddatblygu’n barhaus
  • er mwyn gwella amrywiaeth yr uwcharweinwyr, gwnaethom ganolbwyntio ar sut i gefnogi arweinwyr y dyfodol i berfformio ar eu gorau a gwneud y gorau o’u potensial, ni waeth beth fo’u cefndir
  • er mwyn sicrhau safon aur am gynhwysiant, gwnaethom lansio Pecyn Cymorth Cynhwysiant i addysgu pob aelod o’r staff a sicrhau ei fod yn deall sut y gall greu diwylliant cynhwysol ar gyfer pawb fel rhan o’i rôl
British Broadcasting Corporation

British Broadcasting Corporation

©2025
Newid iaith:

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Demo mode

Hides preview environment warning banner on preview pages.

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: