Main content

Cerddi Rownd 1 2025

1 Pennill bachog: Proffeil Dêtio Dewi Sant

Dwy Ochr i’r Bont
Fy enw i ’di Dewi,/ dwi’n fyr, ac eitha’ strêt,
ond gwell ’mi ddeud o’r cychwyn:/ dwi’m fod i fynd ar ddêt.
Oherwydd mod i’n fynach,/ ma’r rheol gant y cant
yn erbyn rhyw a fflyrtio,/ ond diawl, dwi ddim yn sant!

Manon Wynn Davies 8.5

Tegeingl

Dwi'n hogyn go handi/ Ac er mod i'n sant
Dwi'n ddiawl o un randi/ Yn hwrdd gant y cant.
Dwi'n codi yn wyrthiol/ I'th ddenu i'r sach
A'th blesio'n anseintiol ....Wrth wneud pethau bach!

Pedr Wyn Jones 8.5

2 Cwpled caeth yn cynnwys unrhyw derm yn ymwneud â seryddiaeth

Dwy Ochr i’r Bont
O blith yr holl sêr, Ceri
yn y nen yw’n ffefryn i.

Osian Wyn Owen 8.5

Tegeingl
Y lloer sy'n fantell arian
O wawn coeth fel ewyn can.

Neville Eden 8.5

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Cawl eildwym, mae’n debyg, sydd orau’ neu ‘Cawl eildwym sydd orau, mae’n debyg’

Dwy Ochr i’r Bont
Cawl eildwym, mae’n debyg, sydd ora’
mae’n dewach, mae lot mwy o lympia’
ond yn ôl fy ngholuddyn
ar y bog, bore wedyn
gwell bwyta’r stwff ffres y tro nesa’.

Llywela Siriol 8

Tegeingl

Daeth eto'r hen wres a pherlewyg
Yn dân ar hen aelwyd go beryg'
A buan y dodes
Fy llwy yn ei photes:
Cawl eildwym yw'r gorau mae'n debyg.

Nesta Davies 8

4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Partneriaeth

Dwy Ochr i’r Bont

Fe fu o’n anghyfannedd
cartref sydd mwy’n fwy o fedd
a’r hen bren fel esgyrn brau,
ôl hen wylo’n y waliau.

Ond weithiau mae dau’n d诺ad
i wneud t欧 â chaniatâd;
daethom i’w drin â’r green grit
a dad-gancrwyd ei goncrit.

Ac wrth grafu’r papur p诺l
ymaith, a’r llwch yn gwmwl,
drwy'r chwys a’r holl blastar chwâl
fe wnawn hafan o’n hofal.

Osian Wyn Owen 10

Tegeingl

Mae'n drwm ar ddim ond yr un:
‘Ddaw na chanllaw na chynllun……
Ond ei dawn syniadau da
Yn wastad sydd gan Nesta:
Sgwenna Daf y dasg yn dwt
Un hirben braidd yn ff岷價bwt 馃槅;
Uchel yw'r bar gan Sara
Llawn cyfoeth, mor ddoeth, mor dda;
Daw Nef yn dân o afiaith
‘Nawr i gyd yn rhannu'r gwaith
‘Nawr bydd, dwi'n fodlon rhoi bèt
Y Talwrn lawr y toilet.

Pedr Wyn Jones 8.5

5 Triban yn cynnwys y llinell ‘Ar ôl yr holl bendroni’

Dwy Ochr i’r Bont
Ar ôl yr holl bendroni
mae’r bleidlais yn fy llaw-i.
Dewisais ddiafol penna’r byd
i gyd, dros dalu trethi!

Elin Walker Jones yn darllen gwaith Osian Wyn Owen 8.5

Tegeingl
Ar ôl yr holl bendroni
Y crafu pen a'r poeni
Daeth ateb gan y fenyw fwyn
A heno rwy'n ymhoeni.

Nesta Davies 8

6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod dros funud a hanner o berfformiad): Enwebiad Canoneiddio/Seintioli unrhyw berson neu bersonau adnabyddus

Dwy Ochr i’r Bont

Mi landiodd ’na amlen fawr acw, fe’i cipiais heb feddwl dim byd,
cyn sylwi ar logo o ddau oriad ’di’u croesi, a chwyr oedd yn edrych reit ddrud.

Roedd ’na ddryswch yn depo’r Post Office – ydy hynny yn syndod i chi?
O Swyddfa y Pab ddaeth yr amlen, ond be ddiawl oedd hi’n da’n fy nh欧 i?

Fel Efa ’Ngardd Eden, fe’m temtiwyd. Fe’i hagorais a gweld hanner cant
o enwau talyrnwyr o Gymru oedd y Pab am eu gwneud nhw yn Sant.

Es ati i 糯glo ar f’union – ‘can you tell me how saints are made?’
Cyn edrych yn ôl ar y rhestr ac ama’ os gwnawn nhw y grêd.

Yn gyntaf, rhaid marw ac esgyn i’r nef. Ar hyn, mae G诺gl yn gadarn.
Ond roedd pawb ar y rhestr yn fyw, gwaetha’r modd, neu ’fo ticed un ffordd lawr i uffarn.

Huw Chiswell a Carwyn, Myrddin ap a Mererid – mae’r rhain ymhlith rhai o’r enwa’,
Rhys Iorwerth ac Eurig, Gruff Sol (dweud y gwir, mi dderbynian nhw rywun yn fan’na!)

Mae’n edrych yn debyg bydd Marged a Tyne, Iwan Rhys a Tudur Dylan
i gyd efo Giatgoch a Groe yn un criw yn aros am ateb ym Mhurdan.

Em Gom, Ifan Prys ac Ifor ap Glyn i gyd sy’n uchel eu clod.
Ond ’rhen Geraint Lovgreen, dwi bron gant y cant, mai’n uffern mae hwnnw i fod.

Roedd rhaid ’mi ddychwelyd y rhestr, ond nid cyn i mi ei ‘Amen’-dio
Mi wnes i enwebu Sant rhif Pum-Deg-Un, cyn ei rhoi yn yr amlen a’i phostio.

Ac felly, mae gennyf ecsgliwsif i chi, fe hoffwn ei rannu fan hyn.
Mae Sant Pum-Deg-Un fan hyn yn eich plith – cyflwynaf i chi ... Anest Bryn.

Anest Bryn 9

Tegeingl ‘Llysiau Crowe’ (Ar dôn ‘Oom pah pah’)

Mae y Pab yn ‘sidro, bwy i’w ganoneiddio,
ac mae gen i syniad i’w gynnig i fo;
Seren wib y ffilmiau, ffrind i’r Rabbitohau,
ac yn ddisgynnydd o dylwyth ein bro.

Oom Pab Pab, Oom Pab Pab, Russell Cig-frân,
Oom Pab Pab, Oom Pab Pab, dyma fy nghân;
ac fel allfwriwr bu’n chwarae ei raaan...
yn gwas i chwi O Pab.

Ei daid yn gwerthu lysiau, fu’n bropor yn ei sgertiau,
fel Maximus, Amorth, a’r Dduw fan’cw Z诺s;
lot o bobl Wrecsam, sa’n hoffi cael ei cwtch-ian,
gan freichiau’r un barfog, ac ella cael s诺s!

Oom Pab Pab, Oom Pab Pab, Russell Cig-frân,
Oom Pab Pab, Oom Pab Pab, dyma fy nghân;
does ddim un gwell nawr am cynnau ein tââân,
mae fyny i chwi O Pab.

Sara Erddig 8.5

7 Tasg ateb llinell ar y pryd – Rhag rhyfel ceri dêl rhwng dau

Dwy Ochr i’r Bont

Rhag rhyfel ceri dêl rhwng dau
A gorfu diosg arfau

Llywela Siriol 0.5

Tegeingl

Rhag rhyfel ceri dêl rhwng dau
Llawn ing llawn brâd llawn angau

Dafydd Evan Morris 0.5

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Sbectol

Dwy Ochr i’r Bont

Am un, dwi’n gorffen brawddeg,
yn rhoi atalnod ar y bore
ac yn gwylio’r byd yn datod
am rhyw chwarter awr.

Dwi’n gwylio dymchwel dinas,
y llwch mor glir yng ngwalltiau’r plant,
a’u henwau’n stamp ar gefn eu dwylo...

Dwi’n gwylio lliwiau’r stormydd
sy’n hyrddio’n hyll drwy drefi gwâr
a’r ofn yn llafnau yn llygaid mamau...

Dwi’n gwylio’n gydwybodol,
yn hel wyneb llofrudd arall
i lyfrgell hunllefau’r oes,
ac yn gwylio llywodraethau llwfr
yn golchi eu dwylo ym môr y rifiera newydd.

Ac ar ôl gweld y dydd a’i drybini,
dwi’n tynnu’n sbectol, ac yn camu allan
i fyd sy’n feddalach o’m cwmpas.

Manon Wynn Davies 9

Tegeingl
(“… y goleuni, heb liw.” Waldo.)

Di-ystyr oedd y marciau du,
rhyw smotiau ar dudalen
ac yntau’n fud ynghanol her
a dicter methu darllen.

Ni welai neges na gair braf
a allai lonni’i galon,
na phwt na phill ddôi iddo’n nes
o’i hunllef bod yn estron.

Ond gwisgodd lens i ddeall iaith
a darllen ymadroddion;
lens wnaed trwy hir ymarfer maith,
lens taith at ei gymdogion.

Yn awr mae asbri i’w ymwneud
a’i ddarllen sionc a heini;
mae bellach ganddo sbectol hud
a’i fyd yn llawn goleuni.

Dafydd Evan Morris 8.5

9 Englyn: Cartref

Dwy Ochr i’r Bont

Gwnaeth fwthyn ar y brigyn brau - rhoi plyg,
rhoi pleth i’r canghennau,
ond drwy’r coediach daeth bachau
y gog amdano i gau.

Llywela Siriol 9

Tegeingl

Ein man tydi a minnau: ein hynys
ynghanol y tonnau;
ein Henlli drwy’n gofidiau;
yno down: dim ond ni'n dau.

Dafydd Evan Morris 9