Cerddi Chwarteri 2025
1 Pennill bachog: Yr Efengyl yn ôl...
Caernarfon
Fe daerai Math a'i giang o flaen tribiwnlys
Mae'i fersiwn NHW o hanes oedd yn ddilys.
Hyd heddiw, mae'n parhau yn destun cweryl:
Pa un o'r efengylau yw'r efengyl?
Emlyn Gomer 8.5
Y C诺ps
Rwyt ti'n adrodd rwtsh disynnwyr
Sydd fel manna i'th ddilynwyr.
Un beryglus yw dy bregeth:
Ateb syml sydd i bopeth.
Geraint Williams 8.5
2 Cwpled caeth yn cynnwys unrhyw air yn ymwneud â chriced
137 Wrth afonydd Babilon... Ar yr helyg o’u mewn y crogasom ein telynau... Gwyn ei fyd a gymero ac a drawo dy rai bach wrth y meini.
Caernarfon
Mwy penisel yw’r helyg
hyd dorlannau’n dyddiau dig.
Ifan Prys 9
Y C诺ps
Am bob rhyw Gower mae boi
Di-weld sy’n dod i’w waldio’i.
Huw Meirion Edwards 9
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Un bore, wrth dorri fy lawntiau’
Caernarfon
Un bore, wrth dorri fy lawntiau,
Daeth ffilm byff o Fangor draw ata i.
Fe'i heriais: "Hei Pero -
Dy hoff Farlon Brando?"
"No sweat - Mutiny on the Bounty aye..."
Emlyn Gomer 8
Y C诺ps
Un bore, wrth dorri fy lawn-tia'
Daeth y Coopers Inn Bards draw ar jaunt, yah.
Bonllefwyd "Hooray!
Cawn gêm o groquet!"
Enillodd Roquet, felly sláinte!
Geraint Williams 8.5
4 Hir-a-thoddaid yn cynnwys y llinell ‘‘Adre’r awn eilwaith drwy’r hen anialwch’ neu ‘Drwy’r hen anialwch, adre’r awn eilwaith’
Caernarfon
Ddoe, hir-flagurodd y rhyfelgarwch
yn dwffiau eithin uwch y diffeithwch,
yn damchwa felen, fry yn y düwch.
A gawn ni heddiw ryw egin heddwch
i’r llain? A phan setla’r llwch, mewn gobaith,
adre’r awn eilwaith drwy’r hen anialwch.
Ifan Prys 9
Y C诺ps
Er twrio i feini fu’n gartref unwaith
A dal i geibio â dwylo gobaith,
Er llwgu’n teuluoedd drwy’r misoedd maith
A’n bwrw i’r anial gan beirianwaith
Lladd, mae’n ffynhonnau ni’n llaith – dan y llwch;
Drwy’r hen anialwch, adre’r awn eilwaith.
Huw Meirion Edwards 9.5
5 Cwpled neu ddau gwpled ar fesur ‘Pe bawn i yn artist...’ (T. Rowland Hughes) yn cychwyn â’r geiriau ‘Pe bawn i’
Caernarfon
Pe bawn i yn fab i T. Rowland Hughes
Mi fysa’r stori ar y niws.
Geraint Lovgreen 8.5
Y C诺ps
Pe bawn i'n ymwelydd, mor ysgafn fy nhroed,
Ai'r un haul a welwn drwy ddail y Lôn Goed?
Ac wrth iddi fachlud dros donnau'r lli,
Ai'r un Ynys Enlli a welwn i?
Geraint Williams 8.5
6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Dadorchuddio Cofeb
Caernarfon
Aeth Cofeb Jones a’i deulu bach ar drip yr Ysgol Sul
i Rhyl, lle mae ’na draeth mawr braf a siawns i reidio mul,
Y plantos, Crysbas, Het a Mac oedd wedi gwirioni’n bot,
pob un â’i raw a’i fwced, pêl, inffletabls, y lot.
’Rôl cerdded hyd y prom a joio hufen iâ llawn maeth
aeth Cofeb Jones a’i blant i hawlio’u patshyn ar y traeth.
Ar bob trip glan-y-môr fel hyn, claddu Dad ’di’r ddefod,
a chyn hir roedd Cofeb wedi’i gladdu’n llwyr o dan y tywod.
Aeth Mam â’r bychain at y môr i badlo yn y d诺r,
gan adael pentwr dillad a thywelion efo’r g诺r.
’Rôl gêm o rownders, candi fflos a mwy o hufen iâ,
aeth criw y trip am dro i’r ffair am sbri ac amser da.
Gwibiodd oriau heibio, a daeth amser mynd tua thre,
ond cofiodd rhywun am Cofeb – ar y traeth yn rhywle – ond lle??
Rhaid dadorchuddio Dad! A dyma ddechrau cribo’r tywod,
a phawb o’r bws yn helpu’r plant i drio ei ddarganfod.
Ni ddadorchuddiwyd Cofeb byth, er chwilio ym mhob man,
a heddiw yn y Rhyl ’mond tywel gwlyb sy’n nodi’r fan.
Geraint Lovgreen 8.5
Y C诺ps
Ar dalcen Mur Mudan ar gyrion tawelaf Rhos Ddiflas yn Ll欧n
Mae dwy garreg goffa i gofio am ddeubeth nad oedd yr un un.
Mae’r cyntaf i gofio ‘digwyddiad’, ddigwyddodd am funud i ddau
Ar y pedwerydd ar ddeg o Orffennaf yn y flwyddyn dwy fil dau-ddeg-dau
Mae’r llechen yn lân ac yn eglur yn cyhoeddi â balchder o hyd
Mai dyna y dyddiad, i’r funud, a’r eiliad: ddigwyddodd dim byd.
Gosodwyd y gofeb yn solat mewn sment efo hoelion o ddur
A flwyddyn ar ôl y digwyddiad, dadorchuddiwyd y llech ar y mur.
Fe gafodd o sylw ar Heno, (ar raglen y nos a’r prynhawn!),
A chwiliwyd am rai o’r trigolion a gofiai’r digwyddiad yn iawn.
Roedd Endaf T欧-Pen yn grediniol fod Dim wedi digwydd a’i fod
Yn dyst i’r Dim hwnnw’n digwydd mewn ardal sy’n hynod ddi-nod.
Ond medda Edith T欧 Canol, oedd wedi bod trwy’r Ysgol Sul,
‘Os digwyddodd Dim Byd, fe Ddigwyddodd, paid honni fel arall y mul!’
Aeth y ddau i ffraeo ar Heno a hynny yng ng诺ydd yr holl fyd
A’r plwyfi cyfagos garfanodd, mae’r creithiau i’w canfod o hyd.
Ym mrwydr Mur Mudan fe laddwyd rhyw dri neu bedwar yn wael
A dyna sut bod ’no hyd heddiw ddwy garreg goffa i’w cael
A channoedd yn pererindota bob blwyddyn, yn heidio yn fflyd
I gofio y cofio ddigwyddodd a disgwyl i brofi Dim Byd.
Geraint Williams yn darllen gwaith Rocet Arwel Jones 8.5
7 Ateb llinell ar y pryd – Anodd iawn yw clenshio’r ddêl
Caernarfon
Pan roi’r Iran dan anel
Anodd iawn yw clenshio’r ddêl
Ifan Prys
Y C诺ps
Rhywfodd ym musnes rhyfel
Anodd iawn yw clenshio’r ddêl
Huw Meirion Edwards 0.5
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Papur a Phensel
Caernarfon
Am drigain mlynedd, sgwennai’r naill
yn ysgafn ar y llall,
gan rannu’r teimlad telepathig
na all iaith foel ei ddal….
Dysgodd y naill gyn-hanes y llall,
o’r sgriblo aflafar
’gefn biliau Gallt Derw a Bryn,
hyd dechrau’u byd tenor-ac-alto,
a’r traddodi ar y ‘sbelings’ tafod-ochor-ceg
i’w nythaid newydd eu hunain.
Ond darfu dysg y to h欧n hwn
a ’mond eu plant papur sydd ar ôl,
ac Angau, yn ddau gynddaredd-malu-min
wedi’u rhychu, a’u rhwygo.
Ond mi wnân nhw, gyda hyn,
lyfnu’r dyddiau, yn dyner â dwy law,
a’u darllen nôl i’w gilydd -
am mai arnynt y gwnaeth dad a mam eu marc.
Ifor ap Glyn 9.5
Y C诺ps
ac ar y bwrdd roedd crwyn
orennau’n cordeddu drwy’i
gilydd; a gallai ddeall ystyr
hynny’n iawn. roedd yno hefyd
olion bysedd gwyllt mewn
ychydig flawd; ac, eto, fe ogleuai
synnwyr yn y gwynder hwnnw.
yn beryglus o agos i’r
ymyl, roedd un peth arall, roedd yno
bapur a brawddegau taclus,
llwyd wedi eu printio’n hynod, hynod o
ofalus. ond, nid oedd i’r rheini grebwyll
pen na chynffon. ni allai, chwaith,
lanhau’r blawd oddi ar flaenau’i
fysedd tamp, na disodli’r darnau
oren oedd o dan ei winadd.
Dafydd John Pritchard 9
9 Englyn: Archifdy
Caernarfon
Archifdy Prifysgol Bangor
O gwfaint ein hatgofion, o, da chi,
peidiwch hel y gweision;
wir, rhowch fwy i’r archif hon,
lledwch y celloedd llwydion.
Ifan Prys 9.5
Y C诺ps
(Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru)
Dâp wrth dâp mae’r sgyrsiau’n dod, – ffilm wrth ffilm
Crwydrwn ffyrdd diddarfod,
A dadweindiwn syfrdandod
S诺n ein byw, adleisiau’n bod.
Huw Meirion Edwards 9