Main content

Cerddi Rownd 2 2025

1 Pennill bachog: Geirda

Y C诺ps

Annwyl Ceri
Cyn yr ornest
Holaist am ein barn yn onest.
Geraint, Dafydd, Huw a Rocet:
Hawdd yw canmol criw mor solet.
Hwy yw'r unig dîm o safon
Ddaw o Ogledd Ceredigion.
Cofion atat ti a'r tylwyth,
Holl drigolion Aberystwyth.

Geraint Williams 8.5

Talybont

Gonest wyf mewn pwt o eirda:
Fe all Ianto chwalu caca
Ac mae’n dda am raffu celwydd...
Fe wnaiff hwn chwip o gynghorydd.

Anwen Pierce 8.5

2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘llai’

Y C诺ps

Ar donfedd y Prydeinfyd,
Llai na gwant yw’n llên i gyd.

Dafydd John Pritchard yn darllen gwaith Huw Meirion Edwards 9.5

Talybont

O dan y sêr a'u dawns haf,
rwy'n llai na'r gronyn lleiaf

Gwenallt Llwyd Ifan 9

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Pan oeddwn i’n nofio un bore’ neu ‘Un bore pan oeddwn i’n nofio’

Y C诺ps
Pan oeddwn yn oefad un bore
Fe lamodd dau ddolffin o'r tonne'
O danaf roedd pysgod
Cimychiaid a chrancod;
Peth hynod, ym mhwll Abertawe.

Geraint Williams 8

Talybont

Un bore pan oeddwn yn nofio,
fe sefais yn lled synfyfyrio
am rinweddau'r pen bas,
lle mae'r d诺r yn fwy glas,
mewn armbands i'm atal rhag suddo

Gwenallt Llwyd Ifan 8

4. Cadwyn o dri englyn unodl union i unrhyw gymeriad chwedlonol

Y C诺ps

I’r Milwr Dienw

Yng nghofres hanes mae dy enw’n – gudd,
Ond gwyddom mor arw
Fu oferedd dy fwrw
I dir neb eu slachtar nhw.

Nhw â’u henwau’n eu henaint – yn euraid
Ar furiau rhagorfraint,
Heb gofeb i ddigofaint
Dy fam, heb ddirnad ei faint.

Faint o’r rhain a fentrai i wres – y frwydr,
Fel dy frawd i’r ffwrnes,
Fel ti, cyn toddi i’r tes
Yn ddiwyneb, ddihanes?

Huw Meirion Edwards 9.5

Talybont

Hiroshima

Wyf Wydion y wyddoniaeth – yn taenu
plwtoniwm dewiniaeth.
Hyn yn gnwd, myfi a'i gwnaeth,
a'i holion dros ddynoliaeth.

Dynoliaeth ar dân a welaf – y croen
fel cwyr oer a rwygaf.
Creu nos fel cancr a wnaf,
olion y dwymyn olaf.

Twymyn o'r hedyn atomau – i greu
gwayw'r gwres a golau.
A bwrw'r haul drwy'r cyrff brau
a'u malu yn gymylau.

Gwenallt Llwyd Ifan 9.5

5 Pennill telyn yn cynnwys y llinell ‘Af yn ôl i holi eto’

Y C诺ps

Bron fel defod galwaf acw,
Oedi ennyd, galw'i enw.
Er na chaf fyth ateb ganddo,
Af yn ôl i holi eto.

Geraint Williams 9.5

Talybont

Sglods a hadog rwy’n dymuno,
Gyda lot o halen arno,
Ond hot dog mae’r boi yn syrfo!
Af yn ôl i holi eto.

Phil Thomas yn darllen gwaith Phil Davies 8.5

6 Cân ysgafn: Y Farchnad

Y C诺ps
Roedd y Limerick Arms yn lle hynod, yn dywyll a sdici dan draed,
A Tony, ‘Y Bardd’, oedd y landlord, roedd cerddi fel wisgi’n ei waed.
Y ‘Bar...’ oedd y ’gosa ddaeth Tony i wireddu’i ffug-enw, go iawn,
Ond drwy’i optics ei hun roedd o’n dalent (a hanner) a’i wydr bob amser yn llawn.
Ac yntau a’i fryd ar ddyrchafiad, i redeg Y Goron (T欧 Rhydd),
Mentrodd mai mantais sa ennill un iawn, mewn eisteddfod, rhyw ddydd.
Drwy lwc roedd y Limerick yn denu y beirdd o bob gradd drwy y drws,
A dyna sut y dechreuodd y farchnad yn delio barddoniaeth a b诺s.
Cynigiai un peint am bob pennill a wisgi os clywai o glec,
Tolltai un mawr am odl ddwbwl – fe dalai yn well na’r un siec.
Daeth dydd cyflwyno y campwaith i’r steddfod - yn Chwilog (bid si诺r) -
A’r beirdd, yn gaeth heb eu noddwr, yn crynu dros wydraid o dd诺r.
A llwyddo fu hanes rhen Tony, fe ddrachtiodd o fedd y corn gwlad,
Heb unwaith ddychmygu mor chwerw mewn eiliad sa blasu ei frad.
Achos Emyr, Ginger E.L., bardd-dwrna, y beirniad, a welodd yn chwim,
Gosododd y trap yn reit daclus a’r Bardd oedd yn amau run dim.
Cerddodd i’r llwyfan yn rhadlon a’i lygaid ar goron yr 诺yl,
Dychmygai y parti’n y Limerick. Cai groeso brenhinol. Bydd g诺yl!
Ond newid y drefn a wnaeth Emyr. Deirgwaith, ‘A oes heddwas?’ medd ef.
Aeth Tony mewn cadwyn englynion am lock-in i orsaf y dref.

Rocet Arwel Jones 9

Talybont

Mistêc oedd mynd i’r ocsiwn
A fi dan annwyd trwm.
Wrth beswch nerth fy esgyrn
Prynais gitâr a drwm.

Ac yna wrth fwldagu
Gwnes s诺n yn y lle rong,
A chredwch chi neu beidio,
Rwyf nawr yn berchen gong.

Wrth estyn am hancesi
Ddigwyddais ollwng rheg,
Fe sylwodd boi yr ocsiwn,
A phrynais organ geg.

Ces bwl reit gas o disian,
Gan neidio mas o’m sedd,
‘Gwerthwyd!’ medd llais o’r llwyfan,
‘Chi biau’r gasgen fedd.’

’Rôl cael llond cratsh, a meddwi,
Rwyf bellach ar y stryd
Mewn band un dyn, yn begian –
’Na beth oedd annwyd drud

Anwen Pierve yn darllen gwaith Phil Davies 8.5

7 Ateb llinell ar y pryd – Dau dîm o Gardis sy’n dod

Y C诺ps

Dau dîm o Gardis sy’n dod
Un â dawn a chrefft hynod

Dafydd John Pritchard

Talybont

Dau dîm o Gardis sy’n dod
Heno a ni’n sâl hynod

Gwenallt Llwyd Ifan 0.5

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Cydsynio

Y C诺ps

roedd yn rhaid imi adael bore
’ma, ’sti, roedd y bara’n

friwsion eisoes ar y
bwrdd a’r llawr; roedd y

glaw wedi peidio ac roedd y
gwynt yn poeni’r pyllau

bach o dan y ceir ar
ochr stryd; roedd pobl hwythau’n

brin ac ar ruthr. oedd,
roedd yn rhaid imi adael, a

doedd dim bwriad gen i wneud;
gobeithio, wir, fod hynny’n iawn.

Dafydd John Pritchard 9.5

Talybont
[i Dafydd Pritchard]

Mi ddaeth cawod o rywle,
a thrwy ddrws y caffi,
llifodd ffrwd o ddynoliaeth.
Caeodd ei lyfr, a gwthiodd ei sbectol i fyny’n uwch
a sylwi o’r newydd, nawr fod y lle’n llawn.
Dros ei baned gwelai’r
gwenu yn llygaid ffrindiau
ac osgo’r fam yn ysgwyddau ei merch.
Lluniau llonydd ymysg y rhuthr;
eglurdeb er gwaetha’r stêm o’r te a’r cotiau.

Trysorodd y manylion lleiaf
a’u gosod yn ddestlus yn nrâr ei gof
fel ieir bach yr haf prin,
i’w rhyddhau yn hwyrach
yn ei gerddi cynnil,
cain.

Phil Thomas 9.5

9 Englyn: Man Diogel

Y C诺ps

Ar ôl i’r ysgol ddisgyn – ar ei phlant,
Ac i’r fflam eu llyncu’n
Gynnud byw o gnawd bob un,
Oes gwaelod i flys gelyn?

Rocet Arwel Jones yn darllen Huw Meirion Edwards 10

Talybont

Yr hewl sy’n dy wroli – pob cur,
Pob cam sy’n arfogi,
Heb ffrwyn a heb gadwyni,
Daw ias o d’Adidas di

Anwen Pierce 9.5