Main content

Cerddi Rownd 1 2025

1 Pennill bachog: Rhestr o Bethau i’w Gwneud

Talybont
Rhyddhau troseddwyr asgell dde,/ Rhoi tollau ar gymdogion,
Newid enw Gwlff y Mecs,/ Ac esgus bod yn Gristion,
Anfon Musk i gwb y ffowls,/ Gwobrwyo llawer unben,
Mynd i weld y Super Bowl/ A rownd o olff i orffen.

Phil Thomas yn darllen gwaith Phil Davies 8.5

Ffoaduriaid
Lliwio’r gwreiddiau. /Tanio’r coesau.
Gwynnu dannedd. /Llyfnhau crychau.
Llenwi gwefus. /Cael tin siapus.
ar ôl hynny /bod yn hapus.

Llio Maddocks yn darllen gwaith Gwennan Evans 9

2 Cwpled caeth yn cynnwys unrhyw derm yn ymwneud â’r diwydiant cyhoeddi

Talybont
Diwaelod pob tudalen
trysorfa ein Lolfa lên.

Gwenallt Llwyd Ifan 8.5

Ffoaduriaid
O'i gyhoeddi, mae gwaddol
dy drin iaith yn ddi-droi-nôl.

Gruffudd Owen yn darllen gwaith Gethin Wynn Davies 9

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Efallai na ddylwn i ofyn’

Talybont
Paham roedd na rwsiad da’r Meuryn
yn trafod yn ddirgel yr englyn?
A pham wedi’r cwbl
roedd poced llawn rwbl?
Efallai na ddylwn i ofyn.

Gwenallt Llwyd Ifan 8.5

Ffoaduriaid

Efallai na ddylwn i ofyn
sut beth ydi bywyd fel Meuryn
darllen limrig di-ddim
sy'n dweud diawl o ddim
a gorfod ei ganmol e wedyn.

Llio Maddocks yn darllen gwaith Dyfan Lewis 8.5

4. Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Cyfoeth

Talybont
(Mam)

Lliwiau’r dail sy’n llorio’r dydd
inni wrth odre’r lonydd,
a’r glaw oer ar garreg wleb
yw’r enw ar ei hwyneb.
Hithau’n y lluniau llonydd
yn y fan lle gwn na fydd
ail wanwyn iddi ‘leni,
na thân ei chwmnïaeth hi.

Ond o bridd cwrlid ei bro,
am y maeth yn ymwthio,
daw o wiail a deiliach
y wên fawr Lili Wen Fach.

Gwenallt Llwyd Ifan 10

Ffoaduriaid

Dwi ofn mai hen ddyn sdyfnig
fydda i. Ryw hen farf ddig,
yn wiwera ei geriach,
focs wrth focs i hofel fach.

Dwi ofn y cysegraf d欧
i bryder; heb waredu
fy rwtsh, gadawaf ar ôl
fynyddoedd annefnyddiol.

Er hyn gwarchodaf o raid
y llanast a’m holl enaid;
rhag ofn i fory gefnu
ar faich y trysor a fu.

Gruffudd Owen 10

5 Triban yn cynnwys y llinell ‘Mae’n anodd ffeindio’r amser’

Talybont
Mi brynais oriawr glefer
Sy’n mesur gwres a phellter
Er bod na faps, sydd wrth fy modd,
Mae’n anodd ffeindio’r amser.

Phil Thomas yn darllen gwaith Phil Davies 9

Ffoaduriaid
Mae’n anodd ffeindio’r amser
I greu gwisg draig neu wiwer.
O weisg, a gawn ni lyfr bach twt
am grwt mewn jîns a siwmper?

Llio Maddocks yn darllen gwaith Gwennan Evans 8.5

6 Cân ysgafn: Diweddaru

Talybont

Ataliwch y wasg, mae newid ar droed,
Ailwampiwch y testun, a hynny'n ddi-oed.
Daeth cais oddi uchod, a rhaid ufuddhau,
I ail eirio'r Gair, a hynny yn glau.

Dim câr dy gymydog a geir o hyn mlaen,
Ond stwffiwch y diawled, a siarad yn blaen.
Mae troi y foch arall yn dirwyn i ben,
A dial diddiwedd fydd nawr is y nen.

Os welwch chi'r geiriau 'Duw cariad yw',
Newidiwch nhw'n syth i 'Mamon yw Duw'.
Rhowch ffydd, gobaith, cariad mewn bin yn reit chwim
Cans rhagfarn, anobaith, casáu fydd pob dim.

Gadewch i blant bychain fyned i ffwrdd
A chuddiwch y tlodion rhag i ni eu cwrdd.
Newidiwch hanes Goleiath y cawr,
A nodwch sut wasgodd e Dafydd i’r llawr.

I brofi fod heddiw yn ddydd y rhai mawr,
Argraffwch Ei enw yn fras ar y clawr,
A nodwch y pris yn glir yr un modd,
Trideg darn Bitcoin a'ch enaid yn rhodd.

Anwen Pierce yn darllen gwaith Phil Davies 8.5

Ffoaduriaid

Tasa dyn yn gwaedu’n fisol, byddai’r driniaeth lawer gwell,
byddai smear test fel cael spa day, nid rhyw ddull o ganrif bell.
Byddai dyn wedi dyfeisio drôn bach bach bach bach bach iawn
i hedfan fyny twll a gwirio. Nid dyfais artaith fel a gawn.
Tasa dyn yn profi’r mislif, byddai’r byd yn dod i stop
bob pedair wythnos efo’r lleuad. Cau’r busnesau, cau pob siop.
Byddai’r llif yn destun balchder. “Dwi ‘di gwaedu gymaint, frawd.
Mae o mor drwm ag englyn cnebrwn.” A’i holl ffrindiau’n codi bawd.
Byddai tampons yn ail frandio – wele Bryn Fôn ar yr ads
efo’r strapline “Gwaeda’n ddynol, filwr, yn dy faxi-pads.”
Tu allan i bob t欧 sy’n gwaedu, byddai dyn yn codi fflag
i ddatgan i’r rhai eiddigeddus, “Ie dwi’n ddewr, dwi ar y rag.”
Byddai’r NHS yn gwrando ar bob dyn sy’n profi’r clwy
i sicrhau nad ydi’r poenau byth yn tyfu llawer mwy.
Byddai’r Senedd yn ariannu parasetmols i bob dyn
a chronfa ymchwil hael i ddifa’r menopos i’r rhai sy’n h欧n.
Byddai’r byd yn moderneiddio i wneud bywyd dyn yn braf
yn fisol, fel rhyw ddefod sanctaidd. Nid eu trin fel ffiaidd glaf.
Dyna ni, nai stopio rantio. Cân fach ddigri i fod oedd hon.
Gadewch i mi ymddiheuro. Mai’n ddechrau’r mis, a dwi’n diw on.

Llio Maddocks 9

7 Ateb llinell ar y pryd – Jarman oedd y gân i gyd

Talybont
Jarman oedd y gân i gyd
A hafau’n gwesty hefyd

Gwenallt Llwyd Ifan 0.5

Ffoaduriaid
Yn ei rythm a’i ryddid
Jarman oedd y gân i gyd

Gruffudd Owen 0.5

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Newyddion

Talybont
(Phnom Penh, Hydref 1991)

Wedi’r gwres, daeth y gwynt ac yna’r glaw.
Rhuthrodd y plant i’r t诺ll o dan y bondo
i neidio a chrynu a chwerthin yn noeth yn eu cawod newydd.
Tawodd rhuthr y stryd am ennyd,
a threiddiodd y datganiad o bob radio.
Fe glywodd hi o’i llofft y llais stacatto
yn datgan fod y pedwar gyda’u dwylo meddal, glân
wedi caniatáu y byddai eu plant
yn cael byw mewn heddwch.
Pwysodd allan drwy’r ffenest,
golchodd y glaw y chwys a’r dagrau o’i gruddiau.
Trwy losg ei llygaid gwelodd ei hunan neithiwr
yn croesi’r groesffordd ar ôl ei weld ef;
yn rhannu gwên a rhoi ei law yn ddidaro ar fol y ferch ifanc, swil.
Heb boeni am wlychu, fe gamodd hi allan.

Phil Thomas 9.5

Ffoaduriaid
"The Democrats don't matter. The real opposition is the media. And the way to deal with them is to flood the zone with shit" Steve Bannon

Un tro arall o gylch y trac
mae'r cosmos yn hoff o'i driciau,
yn wae neu'n waedd eilwaith,
mae'r dihirod yn ôl, ac yr un yw eu dulliau;
llif cynnwys, brawddegau blêr,
consurwyr anhrefn, gormodedd,
dim ysbaid, dim ond rheg,
dieithrwch a chamwedd.

Hen gast ydyw, hen beth erbyn hyn
a syrthiwn bob tro i'r fagl
yn dorf mympwy, yn bobl bach,
yn gaeth i gylchoedd afiach.

Ohebwyr annwyl, gwarcheidwaid y gwir;
Rhowch i ni drefn! Rhowch i ni gysur!
Cofiwch hyn pan fo'r rhethreg yn cau:

Does dim newydd yn eu geiriau.

Gruffudd Owen yn darllen gwaith Dyfan Lewis 9.5

9 Englyn: Dilynwyr

Talybont
dilynwr - drudwyod Aber ym mis Chwefror

I aber dof gan wybod – yn y gwyll
y daw g诺yl o undod,
a’m pryder ar ddisberod
mae ias byw ym mis eu bod.

Anwen Pierce 9.5

Ffoaduriaid

Parhau yn ffyddlon wna’r praidd – i hen drefn,
yn driw ac yn wylaidd
fel 诺yn; a’u bugail yn flaidd
di-falio o fwystfilaidd.

Gruffudd Owen 10